Hawliau gweithwyr
Workers' rights - Welsh
Hawliau gweithwyr
Mae eich hawliau fel gweithiwr wedi eu diogelu gan gyfraith y DU.
Mae rhai hawliau'n berthnasol cyn gynted ag y cewch swydd, mae eraill yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych yn gweithio. Mae'r adran hon yn nodi beth ddylech ei ddisgwyl gan eich cyflogwr. Dyma eich hawliau cyfreithiol.
Eich hawliau cyfreithiol
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Os ydych mewn swydd barhaol, neu ar gontract tymor byr neu’n gweithio i asiant, dylech dderbyn o leiaf yr isafswm cyflog priodol, naill ai’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dibynnu ar eich oedran.
Os ydych chi'n derbyn tâl ‘gwaith ar dasg’ (am nifer yr eitemau yr ydych yn eu cwblhau, pacio neu gasglu) yna dylech barhau i ennill o leiaf yr hyn sy'n cyfateb i'r isafswm cyflog fesul awr perthnasol.
Mae rhai eithriadau i hyn, gan gynnwys gweithwyr hunangyflogedig a gweithwyr gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.gov.uk a chwiliwch am ‘NMW’.
Slip tâl eitemedig
Dylech dderbyn slip tâl ar y diwrnod y cewch eich talu, sy'n dangos eich tâl gros a'ch tâl net (mynd adref). Dylai ddangos y swm a’r rheswm dros unrhyw ddidyniadau a wnaed i’ch tâl. Dylai bod didyniadau sy’n newid bob tro y cewch eich talu, megis treth ac Yswiriant Gwladol, fod wedi’u rhestru ar bob slip tâl. Dylech dderbyn eich tâl a gytunwyd yn brydlon, yn cynnwys unrhyw dâl gwyliau neu dâl salwch sy'n ddyledus i chi.
Oriau gwaith
Ni ddylai bod rhaid i chi weithio mwy na 48 awr yr wythnos, gan gynnwys unrhyw oramser, oni bai eich bod wedi dewis gwneud hynny.
Mae gennych hawl i gael o leiaf un diwrnod i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos, neu ddau ddiwrnod i ffwrdd bob pythefnos. Os ydych yn gweithio mwy na chwe awr y dydd, dylech gael egwyl am o leiaf 20 munud.
Gwyliau blynyddol
O dan y gyfraith mae gennych hawl i isafswm nifer o wythnosau o wyliau bob blwyddyn, yn dechrau o’ch diwrnod cyntaf yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr rhan amser, gweithwyr dim oriau a gweithwyr ar gontractau tymor penodol.
Mae’r swm o wyliau a gewch yn dibynnu ar y dyddiau neu’r oriau yr ydych yn eu gweithio. Mae’n seiliedig ar eich oriau gwaith arferol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser), a gronnir yn ystod yr amser yr ydych yn gweithio i’ch cyflogwr a dylid eich talu ar eich cyfradd gweithio arferol.
Pan fyddwch yn gadael eich swydd, dylech gael eich talu am unrhyw wyliau sy’n ddyledus i chi. Os na fydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd unrhyw wyliau neu os oes tâl gwyliau'n ddyledus i chi, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Acas neu Gyngor ar Bopeth am arweiniad ynglŷn â hawlio'r arian.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ‘hawliau tâl a chyflogaeth’ yn gov.uk.
Didyniadau o gyflog
Dim ond rhai didyniadau penodol y gall eich cyflogwr eu tynnu o'ch cyflog a rhaid iddynt gael eu rhestru ar eich slip tâl.
Dylech bob amser dderbyn y 'swm net' a ddangosir ar ôl i ddidyniadau gael eu tynnu. Mae rhai didyniadau'n statudol, megis treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, a bydd eraill y byddwch efallai wedi cytuno iddynt, megis taliadau llety neu gludiant.
Gall rhai didyniadau mewn contractau fod yn anghyfreithlon. Hyd yn oed os ydych wedi cytuno i ddidyniad rhaid iddo beidio â gostwng eich tâl islaw'r isafswm cyflog, ar wahân i swm cyfyngedig ar gyfer llety. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.
Tâl salwch
Dylai eich contract nodi pa dâl a gewch os ydych yn sâl ac yn methu gweithio. Yr isafswm y mae gennych hawl iddo yn y DU yw Tâl Salwch Statudol. Mae hwn yn berthnasol pan fyddwch yn absennol o'r gwaith am bedwar diwrnod neu fwy yn olynol. Efallai y bydd eich contract yn rhoi tâl neu fuddion ychwanegol i chi dan amgylchiadau eraill.
Iechyd a diogelwch
Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol dros eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith. Dylech dderbyn gwybodaeth iechyd a diogelwch, hyfforddiant, dillad diogelu ac unrhyw ddillad sydd eu hangen yn eu lle am ddim, pan mae hynny'n briodol.
Telerau ac amodau
Dylech gael dogfen yn nodi prif amodau eich cyflogaeth pan fyddwch yn dechrau gwaith. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys ‘prif ddatganiad’ y dylid ei roi i chi ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith ac a ddylai gynnwys:
- Eich enw
- Enw a chyfeiriad eich cyflogwr
- Teitl swydd neu ddisgrifiad o’r gwaith a dyddiad dechrau
- Lleoliad gwaith, a ddylai gynnwys pob lleoliad
- Beth yw eich tâl a pha mor aml y cewch eich talu
- Oriau a dyddiau gwaith, ac a fyddant yn amrywio ai peidio
- Hawl gwyliau (gan gynnwys gwyliau cyhoeddus)
- Pa mor hir mae disgwyl i’r swydd bara
- Hyd ac amodau’r cyfnod prawf
- Hyfforddiant gorfodol
- Unrhyw fuddion eraill (cinio, talebau gofal plant)
Ar eich diwrnod gwaith cyntaf, dylai eich cyflogwr drafod y canlynol gyda chi:
- Tâl a gweithdrefnau salwch
- Absenoldeb â thâl arall
- Cyfnodau rhybudd
Rhaid i chi gael datganiad ysgrifenedig ehangach yn cynnwys rhagor o wybodaeth, cyn pen dau fis o ddechrau’r gwaith.
Cefndir y GLAA
Mae’r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) yn sefydliad sy’n diogelu gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i godi ymwybyddiaeth, atal ecsbloetiaeth ac ymchwilio i weithgarwch didrwydded ac anghyfreithlon ledled y DU.
Rydym yn gwirio bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg a chyfiawn. Rydym yn ymchwilio i faterion cam-drin gweithwyr, yn amrywio o dan-dalu cyflogau i droseddau caethwasiaeth fodern, megis llafur gorfodol a masnachu pobl.
Mae ein cynllun trwyddedu yn rheoleiddio busnesau sy’n darparu gweithwyr i’r diwydiannau cynnyrch ffres a garddwriaeth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau cyflogaeth sy’n ofynnol drwy’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth, casglu pysgod cregyn a’r holl waith prosesu a phacio sydd ynghlwm â hynny.
Rhaid i bob ‘meistr gang’ (cwmnïau neu unigolion sy’n darparu gweithwyr) yn y sectorau hyn feddu ar drwydded GLAA a chydymffurfio â chyfuniad o safonau trwyddedu. Mae gweithredu heb drwydded yn y sectorau hyn neu ddefnyddio meistr gang didrwydded i ddarparu gweithwyr yn drosedd.
Gweld yr arwyddion
Mae nifer o arwyddion a all awgrymu bod rhywun yn cael ei ecsbloetio neu ei reoli. Ymhlith y rhain mae:
- derbyn ychydig neu ddim tâl am waith
- cael ei orfodi i weithio oriau hir, heb amser i ffwrdd
- dim pasbort, dogfennau adnabod nac arian
- ddim yn gallu cyfathrebu’n rhydd
- byw mewn llety is-safonol
- anafiadau heb eu trin
- dyled gynyddol am drafnidiaeth neu wasanaethau diangen
- dibynnu ar ei gyflogwr am waith, teithio a llety
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i sylwi ar arwyddion o ecsbloetio gweithwyr, ewch i www.gla.gov.uk.
Os nad ydych yn derbyn y tâl a’r amodau y dylech, neu fod gennych bryderon neu amheuon o ecsbloetio gweithwyr, cysylltwch â ni ar unwaith.
I drafod eich hawliau gweithwyr gydag ymgynghorydd profiadol, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu ffoniwch linell gymorth ACAS ar 0300 123 1100.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni am gyngor, cymorth neu i adrodd problem.
Ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol yn rhad ac am ddim: 0800 432 0804
e-bost: contact@gla.gov.uk
www.gla.gov.uk
am wybodaeth ac i adrodd problemau
Mewn achos brys, os oes risg o berygl i fywyd, neu mewn achos o drais neu fygythiad o drais, galwch yr heddlu ar 999.